Mae’r wefan hon wedi’i chreu er mwyn rhoi syniad i chi o’r lefelau o droseddau sy’n cael eu riportio a’r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n digwydd yn eich ardal. Gallwch chwilio drwy nodi enw lle neu god post neu drwy ddefnyddio'r map rhyngweithiol er mwyn dod o hyd i wybodaeth fanwl am y sefyllfa rydych yn byw neu'n gweithio. Caiff y wybodaeth am droseddau a materion cymdogaeth ei ddiweddaru gan eich heddlu o leiaf unwaith y mis.
Mae tair ffordd syml o ddod o hyd i wybodaeth am ardal benodol:
Teipiwch enw lle neu god post yn y bocs a ddarperir ar bob tudalen er mwyn dod o hyd i leoliad penodol.
Dewiswch enw lle o’r dudalen hafan a bydd yn mynd â chi’n uniongyrchol at y map a’r wybodaeth
Gallwch lusgo a chwyddo’r map er mwyn symud o amgylch Cymru a Lloegr, eich Sir, eich ardal neu eich cymdogaeth. Bydd y wybodaeth a ddangosir ar gyfer yr ardal sydd wedi’i dewis ar y map.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddolenni i’r mapiau yn yr adrannau plismona lleol ar wefan eich heddlu.